Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 10 Hydref 2019
Amser:
10.04 -
12.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5738
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Bethan Sayed AC (Cadeirydd) Mick Antoniw AC John Griffiths AC Delyth Jewell AC Rhianon Passmore AC David Melding AC |
Tystion: |
Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni, ITV Wales Jonathan Hill, ITV Cymru Wales Zoe Thomas, ITV Wales Branwen Thomas, ITV Cymru Wales Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr, BBC Cymru Wales Elan Closs Stephens, Aelod o Fwrdd y BBC ar gyfer Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Carwyn Jones AC; dirprwyodd Rhianon Passmore AC ar ei ran.
2.1 Ymatebodd tystion o ITV Cymru i gwestiynau gan y Pwyllgor.
2.2 Cytunodd tystion o ITV Cymru i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch:
Ø y diwygiad sydd ei angen i fynd i'r afael â'r gostyngiad yng ngwerth trwydded ITV Cymru Wales; a
Ø siâp gwariant yn y dyfodol yng Nghymru oherwydd gwell allbynnau.
3.1 Ymatebodd tystion o BBC Cymru Wales i gwestiynau gan y Pwyllgor.
3.2 Cytunodd tystion o BBC Cymru Wales i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch nifer yr oriau rhaglenni ychwanegol a gynhyrchir yn erbyn y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yn 2017.
3.3 Datganodd Rhianon Passmore AC ei bod yn gyn-aelod o Gyngor Darlledu BBC Cymru.
4.1 Nododd yr Aelodau y papur.
5.1 Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.
6.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth.